Yn ein byd sy'n cael ei yrru gan ddata, mae'n bwysicach nag erioed i wybod pwy sy'n defnyddio eich data personol, a pham. Eich hawl chi yw cael gwybod sut mae sefydliadau'n defnyddio'ch data, hyd yn oed os yw'n digwydd y tu ôl i'r llenni. Mae hyn yn cynnwys deall sut mae pobl yn defnyddio'ch data i'ch targedu gyda hysbysebion cyfryngau cymdeithasol.
Rydym wedi creu nifer o adnoddau i'ch helpu i ddeall sut y gallai cwmnïau fod yn defnyddio'ch data i'ch targedu ar-lein a pham, a sut y gallwch reoli pwy sy'n eich targedu.

Gosodiadau preifatrwydd cyfryngau cymdeithasol
Darllenwch fwy am breifatrwydd ar y cyfryngau cymdeithasol a lawrlwythwch ein taflenni ffeithiau sy'n cwmpasu Facebook, Twitter, Snapchat, LinkedIn a Google.

Micro-lunio
Dysgwch am ficro-lunio - math o hysbysebu ar-lein sy'n dadansoddi data personol i nodi buddiannau cynulleidfa neu unigolyn penodol er mwyn dylanwadu ar eu gweithredoedd.

Arferion ymgyrchu gwleidyddol - marchnata uniongyrchol
Dysgwch fwy am yr hyn y gall ac na all ymgyrchwyr gwleidyddol ei wneud wrth gysylltu â chi gyda marchnata uniongyrchol.
Arferion ymgyrchu gwleidyddol - dadansoddeg data
Dysgwch fwy am ymgyrchwyr gwleidyddol sy'n targedu pleidleiswyr gan ddefnyddio dadansoddeg data.

Cysylltwch â ni
Cysylltwch ag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau.