The ICO exists to empower you through information.

Dydd Mercher 9 Mehefin 2021

Rydyn ni’n anelu at sicrhau bod awdurdodau cyhoeddus yn rhoi mynediad amserol i'r cyhoedd at wybodaeth nid yn unig mewn ymateb i’r ceisiadau sy’n dod i law, ond hefyd drwy gyhoeddi gwybodaeth yn rhagweithiol.

Oherwydd y pandemig, mae asesiadau athrawon wedi’u defnyddio yn lle arholiadau traddodiadol. Yn y cofnod blog hwn, byddwn yn edrych ar ba wybodaeth y gall yr ysgolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon sy’n ddarostyngedig i’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOIA) ei chyhoeddi'n rhagweithiol am y prosesau a'r fframweithiau y maen nhw’n bwriadu eu defnyddio ar gyfer asesiadau athrawon. Nid yw'n gymwys i ysgolion yn yr Alban, sydd â'i threfn rhyddid gwybodaeth ei hunan, sy’n cael ei reoleiddo gan Gomisiynydd Gwybodaeth yr Alban.

Gall ysgolion ddisgwyl cael ceisiadau am wybodaeth am eich asesiadau athrawon.Efallai y byddwch yn gallu achub y blaen ar rai o'r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth hyn drwy fynd ati i gyhoeddi rhywfaint o'r wybodaeth hon, megis y polisïau neu’r prosesau a’r dulliau sydd gennych ar waith ar gyfer pennu graddau.

Dyma arfer da ac mae ysgolion eisoes yn mynd ati'n rhagweithiol i gyhoeddi gwybodaeth o’u polisïau a rhywfaint o wybodaeth am gyflogau staff i’w data perfformiad. Nid yn unig mae hyn yn helpu tryloywder ond fe all hefyd leihau nifer y ceisiadau am wybodaeth sy’n dod i law’r ysgolion, ac y mae'n rhaid ymateb iddyn nhw.

Rydym yn argymell y dylai’r ysgolion baratoi am geisiadau am wybodaeth ynghylch sut mae asesiadau athrawon yn cael eu cynnal, drwy wneud y canlynol:

  • dod â gweithdrefnau clir ar waith i adnabod ac ymdrin â'r gwahanol fathau o geisiadau am wybodaeth a allai ddod i law.
  • cyhoeddi cymaint o fanylion ag y gallwch am eich prosesau ar gyfer pennu graddau.
  • ar ôl yr asesiadau, cyhoeddi cymaint o ddata perfformiad dienw ag y gallwch.

Cofiwch: wrth gyhoeddi gwybodaeth, rydych chi’n trefnu bod yr wybodaeth hon ar gael i'r cyhoedd. Felly, dylech fod yn ymwybodol o'ch rhwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau na chaiff dim data personol ei gyhoeddi a allai dorri'r egwyddorion diogelu data.

Efallai y byddwch hefyd yn derbyn ceisiad oddi wrth fyfyriwr unigol yn gofyn am wybodaeth am eu graddau – a’r enw ar hyn o dan y ddeddfwriaeth Diogelu Data yw cais gwrthrych am wybodaeth (SAR). Os cewch chi un o'r ceisiadau hyn yna efallai y byddwch am edrych ar y canllawiau i athrawon ac ysgolion rydyn ni eisoes wedi'u cyhoeddi ynghylch mynediad myfyrwyr at wybodaeth am eu canlyniadau asesu.